Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod â gwerth bron £80m o fudd economaidd i Geredigion, ac yn cyfoethogi ei diwylliant, yn ôl adroddiad newydd

Published

on

Prifysgol Aberystwyth

MAE adroddiad newydd wedi canfod bod economi Ceredigion bron £80 miliwn ar ei hennill oherwydd myfyrwyr rhyngwladol newydd, yn ogystal ag elwa o’r buddiannau diwylliannol a chymdeithasol a ddaw o boblogaeth fwy amrywiol.

Yn yr adroddiad gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch ac Universities UK International,  The Costs and Benefits of International Higher Education Students to the UK Economy, a ysgrifennwyd gan y cwmni ymgynghori London Economics, fe ddadansoddwyd y budd economaidd a ddeilliodd o fyfyrwyr rhyngwladol yn eu blwyddyn gyntaf sy’n mynd i brifysgolion ledled Cymru a gweddill gwledydd Prydain.

Yn y flwyddyn academaidd 2018/19, byddai un myfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf yng Ngheredigion yn rhoi dros £87,000 o hwb i’r economi. Roedd hyn yn gyfuniad o incwm o’r ffioedd dysgu, y costau byw a’u gwariant yn yr economi ehangach, yn ogystal â’r arian a wariwyd gan eu cyfeillion a’u teulu wrth ymweld â nhw.

Serch hynny, dywedodd yr adroddiad na ddylid mesur gwerth myfyrwyr rhyngwladol yn nhermau ariannol yn unig, gan nodi eu bod hefyd yn gwneud cyfraniad allwedd at gyfoethogi’r gymdeithas yn ddiwylliannol.

Yn Aberystwyth mae tua phumed ran o boblogaeth myfyrwyr y Brifysgol yn dod o dramor yn y flwyddyn academaidd 2021/22.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae prifysgol amrywiol yn brifysgol lwyddiannus. Mae myfyrwyr rhyngwladol yn cyfoethogi’r profiad ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy wneud ffrindiau, meithrin perthynas â’r staff, ac ymdaflu i’r gymuned ehangach.

“Yn ogystal â chael profiad addysg uwch, mae myfyrwyr rhyngwladol hefyd yn dysgu am Gymru a’i diwylliant. Mae ein myfyrwyr sy’n hanu o Gymru a gweddill gwledydd Prydain yn meithrin eu sgiliau traws-ddiwylliannol ymhellach, felly mae pawb ar eu hennill. Yn y pen draw, rydym yn creu graddedigion sy’n fwy deniadol yn y farchnad swyddi gyda meddylfryd mwy eangfrydig at y dyfodol.

“Mae gallu Prifysgol Aberystwyth i feithrin cysylltiadau ledled y byd yn galondid i mi bob amser. Mae gan ein cyn-fyfyrwyr hoffter at y dref a thuag at Gymru na welwch chi mewn prifysgolion eraill. Pan ddychwelant i’w mamwlad maent yn dod yn genhadwyr dros Gymru a gweddill Prydain.”

Edrychodd yr adroddiad ar y flwyddyn academaidd olaf cyn i bandemig COVID-19 daro. Daeth hefyd i’r casgliad bod pob 14 o fyfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd a phob 10 o fyfyrwyr o’r tu allan i’r UE, yn ystod y flwyddyn academaidd 2018/19, wedi cynhyrchu gwerth £1 miliwn o effaith ariannol net yn ystod cyfnod eu hastudiaethau. Ar draws Cymru, daeth myfyrwyr rhyngwladol â budd economaidd net gwerth £1.08bn yn ystod y flwyddyn academaidd 2018-19.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Hwyl ar y beics i blant bach

Published

on

Mae tîm Actif wedi ymweld â'r feithrinfa i gynnig cefnogaeth

Mae plant bach meithrinfa yn Llanarthne yn dangos nad ydych chi byth yn rhy ifanc i reidio beic!

Mae plant cyn-ysgol Cwtsh y Clos wedi cael eu hysbrydoli gan Daith Prydain 2021 pan fu rhai o feicwyr gorau’r byd yn rasio drwy’r pentref.

Mae tîm Chwaraeon a Hamdden Actif y cyngor yn gweithio’n agos gyda lleoliadau cymunedol fel Cylchoedd Meithrin a chanolfannau teulu i ddarparu hyfforddiant a chymorth parhaus i staff i sicrhau bod plant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol o oedran cynnar.

Mae beiciau ‘Toddlebikes’ ar gael mewn Cylchoedd Meithrin i blant eu defnyddio yn ystod ‘chwarae rhydd’ a hefyd sesiwn hwyliog strwythuredig lle byddant yn dysgu’r camau cyntaf tuag at reidio beic yn annibynnol.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: 

“Mae Toddlebikes yn ffordd wych o annog plant i ddechrau dysgu reidio beic. Ar ôl i blant allu cerdded yn annibynnol, gallant ddechrau chwarae gyda Toddlebikes.

“Mae’n wych gweld plant Cwtsh y Clos yn egnïol ac yn mwynhau eu hunain, pwy a ŵyr efallai bod Geraint Thomas y dyfodol yn eu plith!”

Mae tîm Actif wedi ymweld â’r feithrinfa i gynnig cefnogaeth ac i gyflwyno sesiynau Amser Stori Actif i’r plant gyda’r nod o ddod â straeon yn fyw drwy hwyl a gemau.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut y mae’r cyngor yn helpu plant a phobl ifanc i fod yn fwy egnïol a chymryd rhan ar y wefan actif.cymru 

Continue Reading

Cymraeg

Meddygon teulu dal yma ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb

Published

on

Mae meddygon yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn atgoffa’u cleifion eu bod yn parhau i gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb i’r rhai sydd angen eu gweld.

Trwy gydol y pandemig, mae meddygfeydd wedi sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i redeg, gan ddefnyddio ffyrdd arloesol o gyfathrebu â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Erbyn hyn mae llawer o feddygfeydd yn parhau i ddefnyddio ymgynghoriadau ffôn a galwadau fideo lle y bo’n briodol; mae hyn yn rhoi rhyddid i lawer o gleifion siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (nid o reidrwydd y meddyg teulu) yng nghysur a chyfleustra eu cartrefi eu hunain

Mae gan y rhan fwyaf o feddygfeydd systemau ar-lein megis E-Consult neu Ask My GP, lle gall cleifion ofyn cwestiwn llai brys am eu hiechyd. Gweler gwefan eich meddygfa am fwy o wybodaeth.

Mae Fy Iechyd Ar-lein yn parhau i fod yn opsiwn ar-lein 24/7 ar gyfer archebu presgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd – mae wedi’i gynllunio i fod yn gyfleus i gleifion ac yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n hunan-ynysu neu’n gwarchod. Gall cleifion gofrestru ar gyfer hyn drwy eu meddygfa leol.

Mae system brysbennu dros y ffôn neu ar-lein ar waith yn y rhan fwyaf o  feddygfeydd i sicrhau bod cleifion yn siarad ag aelod clinigol o staff am eu hiechyd.

Os oes angen gweld claf wyneb yn wyneb, bydd y feddygfa’n gwneud apwyntiad â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol i’w anghenion.

Dywedodd Dr Siôn James o Feddygfa Tregaron: “Hoffem atgoffa cleifion bod meddygfeydd teulu yn parhau i fod ar gael i chi. Pan fyddwch yn cysylltu â’ch meddygfa, byddwch yn siarad â’r person mwyaf addas ar gyfer eich cyflwr ac os bydd angen i’ch gweld wyneb yn wyneb, yna rhoddir apwyntiad i chi yn y feddygfa.

Gellir trin llawer o gyflyrau dros y ffôn gyda chyngor ac os oes angen, gellir rhoi presgripsiwn i fferyllfa o’ch dewis. Peidiwch ag osgoi ymofyn triniaeth.

Ar gyfer mân anhwylderau, cofiwch y gallai eich fferyllfa gymunedol helpu.”

Ychwanegodd Fferyllydd Cymunedol, Richard Evans: “Yn draddodiadol mae fferyllwyr Cymunedol wedi cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau. Rydym bob amser yn argymell triniaethau addas i’r cleifion, neu os oes angen, eu cyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Yn ystod y pandemig hwn, gweinyddu presgripsiynau yw’r prif ffocws o hyd, ond mae gwasanaethau eraill ar gael, megis y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, Brysbennu a Thrin, cyflenwi meddyginiaethau mewn argyfwng a dulliau atal cenhedlu brys.

Gellir cael mynediad at y gwasanaethau hyn drwy ymgynghoriad dros y ffôn, gyda’r claf neu ofalwr/aelod o’r teulu yn casglu unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol.

Cofiwch archebu unrhyw bresgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd mewn pryd cyn i chi ei orffen.”

Yn ychwanegol at y wybodaeth arbenigol broffesiynol a gynigir mewn fferyllfeydd, bydd cleifion cymwys yn gallu derbyn eu brechlyn ffliw rhad ac am ddim yn y mwyafrif o’n fferyllfeydd cymunedol y gaeaf hwn. Am restr lawn o fferyllfeydd sy’n cymryd rhan, cliciwch yma https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/brechiadau-y-ffliw-tymhorol/

I gael gwybod pa wasanaethau y mae eich fferyllfa gymunedol yn eu cynnig, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/

Mae rheolau cadw pellter cymdeithasol yn parhau ar draws safleoedd gofal sylfaenol er diogelwch cleifion a staff. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweld cleifion wyneb yn wyneb i asesu neu ddarparu triniaeth yn defnyddio’r cyfarpar diogelu personol priodol ac mae sgriniau ar waith mewn rhai cownteri a derbynfeydd

Cofiwch wisgo gorchudd wyneb pan ydych yn ymweld ag unrhyw leoliad gofal iechyd.

Continue Reading

Cymraeg

Mae teuluoedd rhoddwyr organau yn dathlu dadorchuddio cerflun

Published

on

Dadorchuddiwyd cerflun yng Ngardd Fotaneg Cymru fel rhan o Wythnos Rhoi Organau.  

Cynhaliwyd y digwyddiad arbennig i godi ymwybyddiaeth o roi organau, ac i gydnabod teuluoedd rhoddwyr yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac ar draws Cymru.

Mae’r cerflun yn darlunio Glas y Dorlan yn codi o’r twr, yn cynrychioli twf, bywyd a gobaith. Gellir dod o hyd iddo ym mhrosiect pwll newydd yr ardd fotaneg. 

Ymhlith y rhai a fynychodd y dadorchuddio roedd Jesse Lewis o Gastell-nedd, a siaradodd am sut yr oedd rhoi organau yn effeithio ar ei deulu ar ôl i’w fab Jac, yn anffodus, gymryd ei fywyd ei hun. 

Dywedodd: “Llenwyd dyddiau olaf bywyd Jac â gobaith i ni, a phan aethpwyd a hynny i ffwrdd, meddyliais ar unwaith am drawsblaniadau.

“Mae cymaint o bobl yn aros ac yn gobeithio am y cyfle i barhau i fyw bywyd arferol.” 

Yn dilyn hyn, sefydlodd Jesse a’i wraig Janet y Jac Lewis Foundation, elusen i helpu pobl sy’n dioddef o faterion iechyd meddwl. 

Ychwanegodd: “Mae’n cynnig gobaith, a chredaf mai hyn yw’r cynhwysyn sy’n rhoi’r frwydr y tu mewn iddynt i barhau. 

“Ni fydd unrhyw beth sydd wedi’i gyflawni hyd yma byth yn atal y boen o golli Jac fel y bydd unrhyw un sydd wedi colli rhywun mor agos yn gwybod. 

“Fodd bynnag, mae troi’r poen honno’n obaith rhywun arall, yn rhoi ystyr i’w fodolaeth, gan wybod bod ei fywyd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau llawer o bobl eraill.” 

Dywedodd Rea John, Nyrs Arbenigol yn Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG : “Er ein bod wedi cael system optio allan yng Nghymru ers bron i chwe blynedd, ymgynghorir â theuluoedd bob amser cyn i roi organau fynd yn ei flaen.

“Mae’n bwysig gwneud eich penderfyniad yn hysbys i’ch teulu a’ch ffrindiau, fel eu bod yn gwybod beth rydych chi moen ddigwydd pe bau rhoi organau yn bosibilrwydd.

“Siaradwch â’ch teulu heddiw, mae’n ei gwneud ychydig yn haws iddyn nhw os ydyn nhw byth yn y sefyllfa honno.”

Dyluniwyd y cerflun gan yr artist lleol Paul Clarke, a defnyddiodd ddeunyddiau o tair sir Hywel Dda i gynnal y cysylltiad â’r bwrdd iechyd.  

“Mae’n deyrnged i ddiolch i’r teuluoedd sydd, yn eu hamser tywyllaf, yn canfod y cryfder i gefnogi a helpu i achub bywydau pobl eraill,” meddai Rea. 

Continue Reading

Popular This Week